2009-2010 Prospectws

Mae prosbectws 2009-2010 ar gael mewn fformat electronig (pdf). Cliciwch yma.

Ffurflen Gais

Lawrlwythwch Ffurflen gais 2009 -2010. Cliciwch yma.

Gwneud cais ar gyfer Medi 2009

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer 2009 oedd 28 Chwefror. Os oes gennych reswm arbennig dros wneud cais hwyr e-bostiwch ni gyda chymaint o wybodaeth am eich amgylchiadau â phosibl. Efallai y cewch eich ystyried. (JavaScript must be enabled to view this email address)

Beth nesaf?

1. Bydd y coleg yn cysylltu â chi i gadarnhau derbyn eich ffurflen gais.
2. Os ydych chi wedi gwneud cais cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad anffurfiol gyda thiwtor.
3. Ar ôl i chi gael canlyniadau eich arholiadau TGAU, cewch wahoddiad i ddod i'r coleg ar ddiwedd mis Awst 2009. Byddwn ni'n cadarnhau eich graddau gyda chi ac yn gwneud llungopi o'ch canlyniadau ar gyfer ein cofnodion. Caiff dyddiad dechrau ac amseroedd eich cwrs eu cadarnhau.

Cymorth gyda chostau

• Gall myfyrwyr sy'n ymuno â Choleg Dewi Sant fod yn gymwys ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llywodraeth
• Gall myfyrwyr dros 18 mlwydd oed wneud cais am Grant Dysgu y Cynulliad Cenedlaethol hefyd.
• Mae gan y coleg gronfa o arian wrth gefn ar gyfer myfyrwyr gydag adnoddau ariannol cyfyngedig hefyd. Gall hyn ddarparu cymorth ariannol ar gyfer trafnidiaeth, llyfrau, offer, teithiau a chostau byw.

Ymwadiad...

Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei lansio. Mae’r coleg yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod cyrsiau’n cael eu cynnig yn unol â’u disgrifiadau ac y byddai unrhyw newidiadau dilynol yn ychwanegu at, yn hytrach na lleihau cyfleoedd i’r myfyrwyr. Er hynny, cynigir pynciau/cyrsiau yn unol â galw a’r hyn sy’n ymarferol ac, felly, mae’r coleg yn cadw’r hawl i ddiwygio neu ddileu unrhyw gwrs. Ym mhob mater sy’n berthnasol i dderbyn myfyrwyr, mae penderfyniad y Pennaeth yn derfynol.

Dyddiadau tymhorau 2009 - 2010

Tymor yr Haf 2009

27 Ebrill - 21 Gorffennaf
Hanner tymor 25 - 29 Mai

 

Tymor yr Hydref 2009

2 Medi - 22 Rhagfyr
Hanner tymor 26 - 30 Hydref

 

Tymor y Gwanwyn 2010

4 Ionawr - 26 Mawrth
Hanner tymor 15 - 19 Chwefror

 

Tymor yr Haf 2010

12 Ebrill - 19 Gorffennaf
Hanner tymor 31 Mai - 4 Mehefin