








“Mae’r graddau mae dysgwyr yn eu cyflawni ar gyrsiau Safon Uwch yn rhagorol yn aml”. Arolwg Estyn 2006
Yng Ngholeg Dewi Sant mae gennym raglen hyblyg sy'n cynnig cymysgedd o gyrsiau academaidd a galwedigaethol y gellir eu haddasu i gyd-fynd â'ch galluoedd personol, dysgu blaenorol a dewis gyrfa.
Mae pynciau academaidd traddodiadol fel Mathemateg, Saesneg, Hanes, Ffrangeg a'r gwyddorau ar gael ochr yn ochr â phynciau na fyddwch, o bosibl, wedi'u hastudio yn yr ysgol fel y Gyfraith, Sbaeneg, Athroniaeth a Gwleidyddiaeth.