Mae’r coleg wedi’i leoli ar un campws sy’n edrych dros y ddinas, ac mae’r myfyrwyr yn manteisio ar holl gyfleusterau un o golegau chweched dosbarth mwyaf blaenllaw Cymru mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.
Lleolir y capel yng nghanol y coleg mewn lleoliad eang a hardd.
Lleolir yr ystafell harddwch wrth y salon trin gwallt. Mae'r ddau salon ar agor i fyfyrwyr, staff a'r cyhoedd am brisiau gostyngol.
Mae pob myfyriwr yn gallu defnyddio Moodle (Amgylchedd Dysgu Rhyngweithiol) sy'n galluogi dysgwyr a staff i weld cynnwys cyrsiau a chyflwyno gwaith cwrs o unrhyw le sydd â mynediad i'r rhyngrwyd, gan gynnwys o gartref.
Mae'r Ganolfan Adnoddau Dysgu yn llawer mwy na llyfrgell. Mae'r Ganolfan yn galluogi pob myfyriwr i weithio ar ei gyflymdra ei hun er mwyn cyflawni eu hamcanion dysgu unigol.
Mae'n llyfrgellwyr yn cynnig cymorth hanfodol ar gyfer pob rhaglen astudio yn ogystal â chyngor ar ddefnyddio deunyddiau adnoddau dysgu. Mae mynediad eang i'r rhyngrwyd i'w gael o fewn amgylchedd addysgol wedi'i rheoli.
Yn ogystal a chae hyfforddi pob tywydd, gall timau gymryd rhan mewn cystadlaethau yn y neuadd chwaraeon.
Mae gan y neuadd chwaraeon ardal chwarae fawr gydag oriel i wylwyr, ystafelloedd dysgu ac ystafell ffitrwydd.
Mae gan y coleg theatr ei hun ar gyfer cynnal cyngerdd a llwyfannu drama a rifíw. Mae'r ystafell hon wedi'i chyfarparu'n llawn ac yn cynnwys seddau, goleuadau a systemau sain.
Mae yna ystafelloedd ymarfer cerddoriaeth a chyfleusterau technoleg cerddoriaeth newydd hefyd.
Mae stiwdio celf a dylunio eang wedi'i lleoli ar lawr uchaf y coleg sydd wedi'i goleuo'n dda gan olau naturiol.
Mae myfyrwyr astudiaethau Ffilm, Astudiaethau Cyfryngau a Saesneg yn defnyddio sinema bwrpasol y coleg yn rheolaidd sydd â sain amgylchynol a 50 sedd.
Mae gan yr ystafell gyfryngau gyfrifiaduron Apple Mac gyda'r cyfleusterau golygu diweddaraf.
Gall myfyrwyr Ffiseg, Bioleg a Chemeg ddefnyddio labordai gwyddoniaeth sydd wedi'u cyfarparu'n dda ac offer arbenigol ar gyfer sesiynau ymarferol.
Lleolir siop goffi'r coleg yn y brif neuadd ger y ffreutur sy'n gweini prydau poeth ac oer am brisiau rhesymol.